Rhifyn 21

Mae rhifyn Gorffennaf 21 eto yn llawn newyddion a straeon. Yn dilyn y bleidlais yn Senedd San Steffan i leihau’r swm a gyfrennir yn flynyddol gan Brydain at gefnogi gwledydd tlotaf y byd bu Aled Davies yn crynhoi’r ymateb gan wahanol fudiadau ac enwadau i’r penderfyniad trychinebus hwn. Rydym hefyd yn cychwyn ar gyfres newydd lle byddwn yn cael ein tywys gan nifer o gyfranwyr i fannau adnabyddus, a rhai llai adnabyddus Cymru. Menna Green, y Bala, sy’n ein tywys ar ein taith gyntaf i Drefeca. Cawn hanes CWM (Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang) yn ffarwelio gyda’u Hysgrifennydd Cyffredinol, y Parch Ddr Colin Cowan a chyfle hefyd i ddarllen adolygiad gan John Tudno Williams o gyfrol ‘What did the cross accomplish?’ gan N T Wright.

Cliciwch i Ddarllen