Yn rhifyn Medi 15 o Cenn@d cawn wybodaeth am gyfrol newydd Cynog Dafis sef, ‘Pantycelyn a’n picil ni heddiw’, lle mae’r awdur yn galw am ddiwygio Cristnogaeth er mwyn ei gwneud yn berthnasol ar gyfer yr 21ain ganrif. Cawn hefyd adolygiad gan John Tudno Williams o’r gyfrol The Hidden Unity of the Bible gan Pieter J Lalleman. Mae Aled Davies yn ei erthygl yntau yn cyflwyno syniadau trafod y gall yr eglwys gyfan ymgiprys â nhw mewn perthynas â newid hinsawdd, wrth baratoi ar gyfer cynhadledd COP26 ym mis Tachwedd. A llawer mwy…
Cliciwch i Ddarllen