Rhifyn 33

Yn rhifyn Hydref 13 o Cenn@d cawn hanes lansio cyhoeddi cyfrol bwysig ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru o waith D Densil Morgan, sef Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales, cyfrol 2. Ceir hanes 2 weinidog sydd wedi ymddeol yn ddiweddar wedi cyfnod maith a ffyddlon o weinidogaethu, sef y Parchedigion Denzil John, Caerdydd ac Ifor ap Gwilym, Abergele – dymunwn yn dda iddynt ar eu hymddeoliad. Cawn hefyd adroddiad o wasanaeth comisiynu blaenoriaid a gynhaliwyd o dan nawdd Henaduriaeth Ceredigion a Gogledd Penfro o Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yn ei golofn fisol mae Denzil John yn rhoi sylw i gynhadledd COP26 Glasgow ar newid hinsawdd a gynhelir yno fis Tachwedd. O blith newyddion yr eglwysi cawn hanes cynllun Interniaeth Mia Anderson yng Nghapel Gomer, Abertawe, tra mae Siwan Jones yn son am gynllun gwyddoniaeth yn ailddechrau’r ysgol Sul yn Wrecsam. A llawer iawn mwy…

Cliciwch i Ddarllen