Rhifyn 35

Mae rhifyn Hydref 27 o Cenn@d yn rhoi sylw i ‘Ddiwrnod Byd-eang dros Gyfiawnder Hinsawdd’ a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 6 Tachwedd, gyda digwyddiadau wedi’u trefnu yng Nghaerdydd a Bangor.

Cawn hanes cyfarfodydd ordeinio a sefydlu Sian Elin Thomas yn weinidog ym Mhenfro gyda’r Bedyddwyr, a hanes cyfarfod sefydlu’r Parch Robert Parry yn Weinidog ar ofalaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng Ngororau’r Gogledd ym Mhenbedw a Lerpwl.

Ceir datganiad gan Wynford Ellis Owen ac ddegfed Sul Adferiad Cymru tra bod Rhys Bebb Jones yn tynnu ein sylw at a siopau gwarchod hinsawdd.

Yn ei golofn fisol mae Rocet Arwel Jones yn trafod Barddoniaeth iaith a chrefydd, ac yn y silff lyfrau mae John Tudno Williams yn adolygu hunangofiant A E Harvey, sef: Drawn Three Ways: Memoir of a Ministry, a Profession, and a Marriage.

Cliciwch i Ddarllen