Wythnosolyn bywiog, mewn lliw llawn, sy’n cael ei gyhoeddi ar y cyd rhwng Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb y Bedyddwyr yw Cenn@d. Mae’n ffrwyth trafodaethau rhwng gwahanol enwadau Anghydffurfiol, a bydd yn dwyn y gorau o’r Goleuad a Seren Cymru at ei gilydd i greu cyhoeddiad perthnasol i’n cenhedlaeth.
Edrychwn ymlaen at gael clywed lleisiau cyfarwydd cyfranwyr cyson ynghyd â lleisiau newydd. Bydd Cenn@d yn cynnwys pytiau defosiynol, newyddion ar draws Cymru, hanes mudiadau a gweithgareddau, ac adnoddau. Bydd y newyddion oedd yn arfer bod yn rhan o’r 4 Tudalen cydenwadol a rennid gan y tri chyhoeddiad, sef Y Goleuad, Seren Cymru a’r Tyst, yn ganolog i’r Cenn@d newydd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech drafod Cenn@d mae croeso i chi gysylltu a ni ar helo@cennad.cymru
Gallwch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf a chysylltu â ni drwy ddilyn Cenn@d ar gyfryngau cymdeithasol Facebook a Trydar @CennadCymru