Golygyddion

Y Parchg Watcyn James – Golygydd Adlewyrchu / Mynegi Barn

Cefais fy ngeni yn yr India a threulio amser yn ystod fy mhlentyndod yng Nghoed-poeth, Wrecsam, yn Awstralia a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Wedi graddio yn y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth, cefais gyfle i wneud gwaith ymchwil pellach ac astudio cyfraniad John Davies, Tahiti, i’r deffroad cenhadol. Wedi fy ordeinio, bûm yn gweinidogaethu yn ardal Cross Hands a Thŷ-croes yn Sir Gaerfyrddin am 20 mlynedd cyn gwasanaethu gyda Chymdeithas y Beibl.

Bellach rwy’n gwasanaethu cylch o eglwysi yng ngogledd Aberteifi sy’n cynnwys Rehoboth, Taliesin; Nasareth, Tal-y-bont; Capel y Garn, Bow Street; Capel Madog, Pen-llwyn a Chapel Seion. Bûm yn olygydd Y Goleuad ers 2015. Rwy’n briod â Lowri ac mae gennym dri o blant a dau o wyrion, Mabon a Gruffudd. Edrychaf ymlaen am gael rhannu yn natblygiad Cenn@d i’r dyfodol, gan obeithio y bydd yn cyfrannu i drafodaethau ac yn hybu’r newyddion da yn ein plith

Y Parchg Huw Powell-Davies – Golygydd Eciwmenaidd

Fel arfer, byddaf yn cael fy adnabod fel gŵr Nan! Mae’r ddau ohonom wedi bod yn cydweinidogaethu yma yn Sir y Fflint ac wedi byw yn yr Wyddgrug ar hyd y ganrif hon. Mae gennym dri o blant: Robin, Miriam ac Obed, a dau ohonynt yn briod bellach. 

Yn wreiddiol o Wyddelwern yn yr hen Sir Feirionnydd, fe gefais fy magu ar fferm yno cyn symud i ddilyn cwrs yn y coleg yn Aberystwyth a gweithio yno am ychydig. Bûm yn is-warden yng Nghanolfan Plant ac Ieuenctid y Presbyteriaid yng Ngholeg y Bala am gyfnod a hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yr un pryd. Mae gen i ddiddordeb yn hanes yr eglwys, ei chenhadaeth a’i llenyddiaeth.

Mae gennym ni ardd a rhandir sydd bob amser angen mwy o sylw. Mae gennym ni gi hefyd – Pero, sy’n mynnu mynd â ni allan am dro mor aml â phosibl hyd lwybrau’r ardal.

Ers 2016 bûm yn olygydd ar y tudalennau yr oedd y cylchgronau enwadol Cymraeg yn eu rhannu yn y Pedair Tudalen, ac rwy’n falch o gael parhau i fod yn gyfrifol am yr elfen drawsenwadol honno yn Cenn@d a chael gweithio’n agosach gyda’r tîm golygyddol cyfan. 

Y Parchg Aled Daives – Golygydd Newyddion

Mae fy ngwreiddiau ym mhentref Llanllwni, yn Sir Gaerfyrddin, ac rwy’n un o blant eglwys Aberduar. Fe’m hyfforddwyd ym Mangor i fod yn weinidog, a dechreuais weinidogaethu ym Mhontrhydfendigaid yn 1988. Ers 1992 rwyf mewn gofalaeth bro ran-amser, yn ardal Chwilog, Eifionydd, i dri enwad gwahanol (Annibynwyr, Bedyddwyr a Phresbyteriaid), ac yn Ysgrifennydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon. Cefais fy mhenodi gan Gyngor yr Ysgolion Sul yn 1989 fel Swyddog Datblygu Gogledd Cymru; yna fe fues i’n Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor am ddegawd, a bellach rwy’n Gyfarwyddwr y gwaith ers 2006. Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr Cyhoeddiadau’r Gair ers ei sefydlu yn 1992.

Mae fy niddordeb mewn gwaith plant yn ymestyn y tu allan i Gymru, ac rwy’n un o gyfarwyddwyr cwmni Roots for Churches, sy’n cynhyrchu cylchgronau dysgu ac addoli ar gyfer yr eglwys. Rwyf hefyd yn cynrychioli Cymru ar fwrdd rheoli Rhwydwaith Gwaith Plant Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon a Rhwydwaith Addysg Ewropeaidd ECCE.

Bûm yn olygydd Cristion am bum mlynedd ac yn brif olygydd Seren Cymru am 15 mlynedd, a bellach yn edrych ymlaen at gael cydweithio fel aelod o dîm golygyddol Cenn@d.

Rwy’n byw yn Chwilog ers dros 20 mlynedd ac yn briod â Delyth Wyn. Mae gennym ddau o blant, sef Gruffydd a Llio, a merch yng ngyfraith, sef Eleri. Ymhlith fy niddordebau mae cefnogi’r Elyrch sy’n chwarae yn stadiwm y Liberty, gwylio rasio Fformiwla Un ac, fel mab i arwerthwr, rwy’n mwynhau chwarae rhan ‘arwerthwr’ o dro i dro, drwy gynnal ambell arwerthiant i godi arian at elusennau.